Ian Phillips

Lino Print Framed Dimensions: 57 x 46 cm Price: £295.00

Lino Print Framed Dimensions: 56 x 46 cm Price: £295.00

Hand Printed Linocut (1/16) Dimensions: 50 x 60 cms Price: £345.00

Lino Print Framed Dimensions: 57 x 46 cm Price: £295.00
“Wrth astudio Darlunio yn Leicester Polytechnic, des i ar draws llyfr bach o brintiau pren ‘Hiroshige’s 53 Stages of the Tokaido’. Fe wnaeth y llyfr fy nghyfareddu a’m denu i fyd printio cerfwedd, ac ers hynny dw i erioed wedi gallu dianc! Byth ers hynny, dw i wedi bod yn ceisio dal teimlad cain tywydd y tymhorau a chyfansoddiadau dramatig natur sydd i’w gweld mewn printiau Japaneaidd. Dysgais fy hun sut i wneud printiau lino drwy’r dull lleihau, tra’n gweithio fel darlunydd llawrydd yn Llundain.
Yn 2001, symudais i Gymru er mwyn canolbwyntio mwy ar y dirwedd a dod yn argraffydd gwell. Erbyn hyn, dw i wedi bod yn gweithio gyda lino ers dros ugain mlynedd ac wedi arddangos fy ngwaith ledled y wlad, yn ogystal ag yn The Mall Galleries, Llundain, Hong Kong a’r Unol Daleithiau. Yn ddiweddar, cefais gyfle i dreulio cyfnod preswyl ysbrydoledig iawn yn stiwdio argraffu Djumbunji, Cairns, Awstralia. Ychwanegodd hyn ddimensiwn newydd at fy ngwaith printio ac arweiniodd at waith y gyfres Bestiary.
Dw i hefyd wedi bod yn arddangoswr yn Art in Action, Rhydychen, lle cwrddais â Merlyn Chesterman. Arweiniodd y cyfarfod annisgwyl hwn at y cydweithio cyffrous sydd wedi creu Pine Feroda, a chynhyrchu’r printiau pren ar raddfa fawr y mae Pine yn dod yn adnabyddus amdanynt.”
