Glyn Price

Original, Watercolour Framed Dimensions: 31 x 34.5 cm Price: £350.00

Original, Watercolour Framed Dimensions: 31 x 31.5 cm Price: £350.00

Original, Watercolour Framed Dimensions: 31 x 34.5 cm Price: £350.00

Original, Watercolour Framed Dimensions: 31 x 34.5 cm Price: £350.00
Mae Glyn yn wreiddiol o Gwm-y-Glo ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon. Dros y blynyddoedd, mae Glyn wedi arddangos ei waith mewn nifer o orielau, mewn arddangosfeydd unigol a grŵp, gan gynnwys Plas Glyn-y-Weddw, Oriel Môn, Ffin y Parc, Galeri Caernarfon, Royal Cambrian Conwy, Oriel Ger y Fenai, Lion Street Gallery a llawer mwy.
Nid artist tirwedd yn unig yw Glyn. Mae hefyd wedi gweithio ar nifer o brosiectau a sesiynau llesiant drwy greadigrwydd, gan gynnwys ‘Wellbeing for Me’, ‘Lead Creative Schools’ a ‘Art for Wellbeing’ gyda phobl ifanc drwy Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd.
Fel artist, mae Glyn wedi gwerthu llawer o’i luniau a’i baentiadau dros y blynyddoedd, mewn orielau ledled Cymru a thrwy gomisiynau preifat, yn y DU a thramor, gan gynnwys Canada, Ffrainc, Awstralia a’r Iseldiroedd.
Er ei fod wedi gweithio erioed, gan weithio gyda phobl ifanc, cymunedau ac ym myd addysg, mae wedi parhau i fod yn ffyddlon i’w waith artistig, gan barhau i dynnu lluniau a pheintio pan fo modd.
