Martin Salway

Original Oil Framed Dimensions: 33.5 x 33 cm Price: £185.00

Original Oil Framed Dimensions: 33.5 x 33 cm Price: £185.00

Original, Oil Dimensions: 20 x 20 cm Price: £125

Original Oil Framed Dimensions: 33.5 x 33 cm Price: £185.00
Yn wreiddiol o Surrey, mae Martin wedi bod yn tynnu lluniau ac yn peintio ers yn blentyn. Aeth ei gariad at gelf a dylunio, yn eu holl ffurfiau, ag ef i High Wycombe, lle bu’n astudio dylunio, ac wedyn i Brifysgol Brunel i gwblhau MA.
Bu’n gweithio ym maes pensaernïaeth a dylunio mewnol am rai blynyddoedd, cyn mynd ymlaen i ddysgu dylunio a chyfathrebu gweledol hyd at lefel gradd mewn prifysgolion yn y DU a Dwyrain Ewrop. Roedd bob amser yn cael ei ysbrydoli gan y byd o’i gwmpas, gan dynnu lluniau a pheintio yn ei amser hamdden.
Bellach yn byw ar y ffin rhwng Swydd Amwythig a Chymru, mae Martin wedi gallu treulio mwy o amser yn archwilio a datblygu ei waith peintio ar ôl ymddeol, yn enwedig ei baentiadau o dirweddau.
“Mae’r pleser o roi paent ar gynfas i greu delwedd yn deimlad arbennig. Does dim tirwedd byth yn aros yr un fath. Edrychwch i ffwrdd am eiliad, a bydd y golau a’r cysgod yn newid naws yr olygfa o fewn eiliadau. Rydw i’n ceisio dal naws y foment honno.”
