top of page

Ceri Williams

Ceri Williams is an artist living in North Wales , working from her studio near Llanberis. She is  particularly interested in sculpture, the human form and portraits, having studied Art at Llandrillo College in North Wales which included life drawing, portraits, pottery, sculpture and fine art.

Ceri has been working on her new venture of creating sculptures from wool using a needle felting technique: she enjoys creating all sorts of characters from the old to the young, fantasy figures and realistic people. Calling her creations ‘Bobl Bach’, which  translates to ‘Little People’ she is using all her skills of clay sculpting and life drawing to create the features and figure.

Ceri prides herself in the use of natural materials to create her sculptures. Using Wensleydale, Masham and mohair locks for hair. They are sorted and hand dyed. The head and hands are sculpted from finest merino wool using a single barbed needle, known as needle felting. Some of her work incorporates wire sculpture, which is made in a unique way. Ceri uses rich textiles and fabrics, including velvets, cotton and silk. She is particularly interested in capturing the humour, character and interaction between people within her work. All pieces are original and one of a kind.

Mae Ceri Williams yn arlunydd sy’n byw yng Ngogledd Cymru, ac sy’n gweithio o’i stiwdio ger Llanberis.  Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cerflunio, y ffurf ddynol a phortreadau, ar ôl astudio Celf yng Ngholeg Llandrillo yng Ngogledd Cymru, a oedd yn cynnwys bywluniadau, portreadau, crochenwaith, cerfluniau a chelfyddyd gain.

Mae Ceri wedi bod yn gweithio ar ei menter newydd o greu cerfluniau o wlân gan ddefnyddio techneg ffeltio â nodwydd: mae’n mwynhau creu pob math o gymeriadau o’r hen i’r ifanc, ffigurau ffantasi a phobl realistig.  Mae’n galw ei chreadigaethau yn ‘Bobl Bach’ ac mae’n defnyddio ei holl sgiliau o gerflunio clai a bywluniadau i greu’r nodweddion a’r ffigurau.

Mae Ceri yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn defnyddio deunyddiau naturiol i greu ei cherfluniau.  Gan ddefnyddio cudynnau Wensleydale, Masham a mohair ar gyfer gwallt. Maent yn cael eu trefnu a’u lliwio â llaw.  Mae’r pen a’r dwylo’n cael eu cerflunio gyda’r gwlân merino gorau gan ddefnyddio nodwydd un adfach, a elwir yn ffeltio â nodwydd.  Mae rhai darnau o’i gwaith yn ymgorffori cerfluniau o wifrau, sy’n cael eu creu mewn ffordd unigryw. Mae Ceri’n defnyddio tecstilau a ffabrigau cyfoethog, gan gynnwys melfed, cotwm a sidan.  Mae ganddi ddiddordeb mewn cyfleu’r hiwmor, cymeriad a’r rhyngweithio rhwng pobl yn ei gwaith. Mae pob darn o waith yn wreiddiol ac yn unigryw.

bottom of page