top of page

Clive Burnell

Clive Burnell was born in Pencoed, South Wales in 1950.  After leaving school he worked in heavy industry before joining the Glamorgan Constabulary and later, the Devon and Cornwall Constabulary.  He retired from the police force in 2000 after 31 years service and resides in East Devon.   Throughout his police career he spent much of his spare time painting and studying art.  In 2003 as a result of favourable reviews and increased demands for his work, he became a full time artist.   In 2006 he won the “Spirit of Llyn” competition at Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, North Wales and in the same year was awarded the “Philip Malone” Gallery prize at the South West Academy Summer Exhibition.  Clive exhibits at galleries throughout Wales, the West Country and the Welsh borders. as well as the Mall Galleries,  and the Royal Institute of Oil Painters, London where he was  awarded the Menna Joy Schwabe Memorial Award for outstanding Oil Painter in December 2015.

Ganwyd Clive Burnell ym Mhencoed, De Cymru ym 1950.  Ar ôl gadael yr ysgol bu’n gweithio mewn diwydiant trwm cyn ymuno â Heddlu Morgannwg ac yn ddiweddarach, Heddlu Dyfnaint a Chernyw.  Fe ymddeolodd o’r Heddlu yn 2000 ar ôl gwasanaethu am 31 o flynyddoedd ac mae’n byw yn Nwyrain Dyfnaint yn awr. Trwy gydol ei yrfa yn yr heddlu bu’n treulio llawer o’i amser hamdden yn paentio ac yn astudio celf.  Yn 2003, yn dilyn adolygiadau ffafriol a galw cynyddol am ei waith, daeth yn arlunydd llawn amser. Yn 2006 fe enillodd gystadleuaeth ‘Ysbryd Llŷn’ yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog ac yn yr un flwyddyn derbyniodd wobr Oriel ‘Philip Malone’ yn Arddangosfa Haf Academi De-orllewin Lloegr.  Mae Clive yn arddangos mewn orielau ar hyd a lled Cymru, Gorllewin Lloegr a’r gororau, yn ogystal â’r Mall Galleries, a Sefydliad Brenhinol y Peintwyr Olew, Llundain, lle derbyniodd Wobr Goffa Menna Joy Schwabe fel Peintiwr Olew rhagorol ym mis Rhagfyr 2015.

bottom of page