top of page

Lindy Martin

“I live near to Carmarthen Bay, a fascinating conjunction of three rivers where the boundaries of land, sky and sea meet and move in constantly changing patterns. Walking on the beach as often as I can I am drawn to random objects washed up on the shore.

I find these fascinating visually, they have been sculpted and painted by the elements but also intriguing is the story of how they got there.

When walking the shore you cannot help become aware of the amount of waste littering the area. Objects and possessions are consumed and almost immediately are thrown out. Items are now made with built in obsolescence, skills and crafts start to disappear.
My work aims to question this. It is always handbuilt and does not hide the marks which show how it was made. The material is not disguised either, I like to let the clay have a say in its form and texture and choose firings in which the actions of the flames make their own marks.

Very often I will include muds and crushed rocks from the area to add to the clay or for surface decoration. I aim to make work that reflects the landscape, revels in its own materiality and intrigues the viewer with the possibilities of a narrative.

I graduated in 2014 with a First Class Honours Degree in Ceramics from the Carmarthen School of Art, Coleg Sir Gar. I am a registered artist with Gofal Celf (Arts Care), a charity promoting community projects with artists.”  Lindy Martin 2016

“Rwy’n byw ger Bae Ceredigion, lleoliad diddorol lle mae tair afon yn uno a lle mae’r ffiniau rhwng y tir, awyr a’r môr yn cwrdd ac yn symud mewn patrymau sy’n newid drwy’r amser.
Rwy’n cerdded ar y traeth mor aml ag y gallaf ac rwy’n cael fy nenu at wrthrychau sy’n golchi ar y traeth.
Mae’r rhain yn ddiddorol iawn i mi yn weledol, oherwydd maent wedi’u cerflunio a’u paentio gan yr elfennau, ond yr hyn sydd hefyd yn ddiddorol yw’r stori sut y maent wedi cyrraedd yno.

Wrth gerdded ar hyd y traeth ni allwch osgoi gweld yr holl wastraff sbwriel ar draws yr ardal.  Mae gwrthrychau ac eiddo yn cael eu defnyddio yna eu taflu bron ar unwaith. Mae eitemau yn cael eu creu yn awr gyda darfodiad bwriadus, ac mae sgiliau a chrefftau yn dechrau diflannu.  Mae fy ngwaith yn ceisio cwestiynu hyn. Mae bob amser yn cael ei greu â llaw ac nid yw’n cuddio’r marciau sy’n dangos sut y cafodd ei greu. Nid yw’r deunyddiau’n cael eu cuddio ychwaith, rwy’n hoffi gadael i’r clai greu ei ffurf a’i wead ei hun ac rwy’n dewis taniad lle mae symudiadau’r fflamau yn creu eu marciau eu hunain.
Yn aml iawn byddaf yn cynnwys mwd a chreigiau wedi’u malu o’r ardal er mwyn ychwanegu at y clai neu i greu addurn ar yr arwyneb.  Rwy’n ceisio creu gwaith sy’n adlewyrchu’r tirlun, yn datgelu ei berthnasedd ei hun ac sy’n ennyn diddordeb y gwyliwr ym mhosibiliadau’r naratif.

Fe wnes i raddio yn 2014 gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cerameg o Ysgol Gelf Caerfyrddin, yng Ngholeg Sir Gâr.  Rwy’n arlunydd cofrestredig gyda Gofal Celf, elusen sy’n hyrwyddo prosiectau cymunedol gydag arlunwyr.” Lindy Martin 2016

bottom of page